Creu sangha Cymraeg
Creating a Welsh speaking sangha
Rhowch eich anrheg
Make Your Gift
↓ Cymraeg ↓
↓ English ↓
Mae eich rhodd yn cyfrif am DDWBL!
Ein gweledigaeth yw cael y Dharma ar gael i bawb yn eu mam iaith. I roi cyfle i bawb sy’n ymarfer y Dharma i gysylltu yn fwy llawn efo cryfder emosiynol sy’n dyfod trwy ymarfer yn eich mam iaith. Tydi’r Gymraeg ddim yn ffurf niwtral o gyfathrebu i siaradwyr Cymraeg, mae’n rhan hanfodol o ddiwylliant arbennig i Gymry Cymraeg, mae’r iaith ynghlwm a’r galon ac felly yn linc uniongyrchol i’r bywyd emosiynol. Mi ydan ni eisiau’r Dharma fod yn rhan o’r diwylliant pwysig yma.
Yng Nghymru, tan yn ddiweddar, nid oedd y Dharma ar gael yn Gymraeg a does dim llawer o adnoddau Dharmig ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod y cyfnod clo, fe ddaeth grwp bach o Fwdhyddion at ei gilydd i ymarfer ar lein. Er bod y Bwdhyddion hyn i gyd yn drwyadl yn Saesneg, nid Saesneg oedd iaith gyntaf y mwyafrif ohonynt ac felly maent yn teimlo ar adegau eu bod yn ymarfer mewn iaith dramor pan yn ymarfer drwy’r Saesneg. Efo’ch cefnogaeth chi, mae’r grwp yma o Aelodau Triratna, Mitras a phobl sy’n newydd i’r Dharma o Gymru ac ar wasgar drwy’r byd yn awyddus i rannu y Dharma yn ehangach.
Yr ydym yn ceisio codi arian i greu mwy o adnoddau Cymraeg er mwyn cynnal a chreu Sangha Cymraeg o bobl sydd eisiau ymarfer trwy’r Gymraeg. Mi fydd yr adnoddau newydd hyn yn cefnogi creu cyrsiau newydd trwy y Gymraeg ac felly yn caniatau inni gysylltu efo mwy o bobl newydd ac yn gwneud y Dharma yn rhan o ddiwylliant Cymreig.

Miriam Lynn, TFO Mitra
“Mae ymarfer o fewn y sangha Cymraeg yn cryfhau ein cysylltiad gyda’r galon ac felly’n galluogi ni i gysylltu efo emosiynau a theimladau. Wrth ymarfer trwy gyfrwng y Gymraeg mae’r cysylltiadau o fewn y sangha yn dyfnhau ac mae dyfnder ymarfer yn datblygu wrth ddefnyddio ein mam iaith.”

Kamalagita, Chair Cardiff Buddhist Centre
“Mae ymarfer y Dharma trwy’r Gymraeg wedi creu posibiliadau newydd i aelodau o’r grwp. Dwi wedi sylwi dyfnder a chynildeb newydd pan mae’r arweinwyr yn arwain myfyrdod yn eu hiaith gyntaf.”

Subhuti
“Er mai Sais ydw i, efo’r gallu i siarad nifer bach o eiriau Cymraeg, rwy’n caru Cymru, fy ngwlad mabwysiedig. Pam cyhoeddi y Dharma yn y Gymraeg? Mae’r ateb yn syml: oherwydd bod y fam iaith yn siarad i’r dyfnder oedd Bhante yn ein dysgu bod angen trawsnewid. Ac mae hyn yn fwy hanfodol, fel yn y Gymraeg, pan mae’r famiaith wedi gorfod goroesi gormes dros y ganrifoedd.”
Your gift counts for DOUBLE!
Our vision is for the Dharma to be accessible to all in one’s mother tongue. To offer everyone practising the Dharma the opportunity to connect more fully with their cultural and emotional sources of strength and inspiration. The Welsh language isn’t just a neutral medium of communication, it is the heart of a distinct Welsh language culture, the language of the heart, the mother tongue, and a direct link to the inner emotional world. We want the Dharma to become part of that culture.
The Dharma in Wales has until recently only been available through the medium of English. There are few Dharma resources available in Welsh. During the lockdown, a group of Welsh speakers set up a small online group to practice together. Members of this group say that although they are fluent in English, it is their second language and they will never be fully “at home” in English: it is, in some sense, foreign to them.
We are seeking funds to create new Welsh language materials and resources that will help us engage and build a new thriving Welsh language sangha. The materials and resources will support us to develop new courses to engage with Welsh-speaking newcomers bringing the Dharma to the emotional heart of Wales.

Miriam Lynn, TFO Mitra
“Practising within a Welsh language sangha strengthens our ability to connect with our cultural and emotional sources of strength and inspiration. Our connections within the sangha deepen and our practice develops through the direct link with our mother tongue”

Kamalagita, Chair Cardiff Buddhist Centre
“Practicing the Dharma through Welsh has shown to be deeply integrating providing opportunities for the Group. I have noticed a subtlety and nuance to their meditation leading, I had not seen before”

Subhuti
“Though I am English and speak but few words of Welsh, I love my adopted country, Wales. But why publish the Dharma in Welsh? The answer is simple: because one’s mother tongue speaks to those inner depths that Bhante taught us we must transform. And that is even more the case when one’s own hearth language has had to survive against the odds of history”